White Lion, Llanelian-yn-Rhos
Saif y White Lion uwchben Hen Golwyn ym mhentref Llanelian-yn-Rhos, nepell o Eglwys Sant Elian, sy’n dyddio i’r 15fed ganrif. Mae rhannau o’r dafarn yn mynd nol I’r cyfnod hwn. Mae llwybr cerrig yn arwain ati a’r White Lion yw un o’r tafarnau hynaf, os nad yr hynaf oll, yng ngogledd Cymru. Ar yr arwydd mae llew gwyn rhempus Humphrey Holland, cyn sgweiar yr ystad. Mae e wedi’i gladdu yn yr eglwys.
Yn y bar mae pentan mawr â thrawst crwn. Mae mainc eglwys o’r 19eg ganrif yno a daeth rhai o’r trawstiau nenfwd o gapel a ddymchwelwyd yn Hen Golwyn.
Fe’i hadnewyddwyd yn y 1990au ond heb iddi golli ei hawyrgylch hanesyddol a chadw nodweddion gwreiddiol fel snug ger y bar.
Mae sôn amdani’n aml yn y CAMRA Good Beer Guide. Ceir ystod eang o winoedd hefyd.
WIfi am ddim
White Lion, Llanelian, Bae Colwyn, Conwy LL29 8YA
Ar Facebook
Find a pub
Recently added
Gone but not forgotten - 08 Maw 2016
Gone but not forgotten - 08 Maw 2016
Gone but not forgotten - 27 Chwef 2016
Gone but not forgotten - 27 Chwef 2016
Gone but not forgotten - 27 Chwef 2016
Gone but not forgotten - 27 Chwef 2016
Gone but not forgotten - 27 Chwef 2016
Gone but not forgotten - 27 Chwef 2016