Kings Arms, Pentyrch
Mae’r adeilad Gradd II rhestredig yn ffermdy tŷ hir a elwid yn Cae Golman ar un adeg. Mae’r waliau cerrig wedi’u gwyngalchu. Cerrig llorio sydd tu mewn a gwelir lle tân agored hefyd. Fe’i sefydlwyd fel tŷ tafarn yn y 18ed ganrif. Mae trawst siamffrog o 1711 yn y bar.
Mae wedi’i lleoli ar gyrion gogleddol Caerdydd ac mae yno far, lolfa a thy bwyta. Mae ystafell ddigwyddiadau ar gael hefyd ynghyd â gardd gwrw a gerddi wedi’u tirlunio. Defnyddir cynnyrch lleol yn y prydau bwyd.
Mae gwrthrychau pres a chopr yn addurno’r waliau.
Erbyn hyn mae’r lle’n cael ei rhedeg ar y cyd rhwng Brains a bragdy Otley ac felly’n gyrchfan da i ddilynwyr cwrw traddodiadol. Mae seidr lleol, sef Orchard Gold o fragdy Gwynt Y Ddraig yn cael ei werthu yma.
Ar un adeg roedd y King’s Arms yn un o ddwy dafarn leol oedd yn enwog am eu hymrysonnau barddol. Y llall oedd y Collier’s Arms ar y Garth.
Kings Arms, Church Road, Pentyrch, Caerdydd CF15 9QF
Find a pub
Recently added
Gone but not forgotten - 08 Maw 2016
Gone but not forgotten - 08 Maw 2016
Gone but not forgotten - 27 Chwef 2016
Gone but not forgotten - 27 Chwef 2016
Gone but not forgotten - 27 Chwef 2016
Gone but not forgotten - 27 Chwef 2016
Gone but not forgotten - 27 Chwef 2016
Gone but not forgotten - 27 Chwef 2016